English

Cartref

Llety

Prisiau

Tystebau

Oriel Lluniau

Lleoliad

Hanes Porthgain

Cysylltiadau Lleol

Cysylltu a ni

 

 

Diolch am wythnos hyfryd yma. Tywydd yn dda a'r ty yn siwtio i'r dim. Y tro cyntaf i ni dreulio cymaint ag wythnos yma ac yn wir mae na fwy na digon i'w neud...wedi bod am dro sawl gwaith )o Borthgain i Abereiddi, o Borthgai i Drefin ac o Dy-Ddewi ar y llwybyr gyferbyn ag Ynys Dewi). Bwyd blasus i gael yn yr ardal a cyfle i fynd i Henllys, Pentre Ifan, Abergwaun a Hwlffordd. Felly wythnos arbennig yma ac er ein bod ni wedi cael wythnos lawn mae na lawer dyn ni heb neud eto. Gobeithiwn dod yn ol y flwyddyn nesaf.
P L a'r teulu Hydref 2007

Diolch o galon am wythnos fendigedig!Ty croesawus (diolch am rhoi'r goleuadau 'mlam ar y goeden 'dolig cyn i fi gyrraedd!), clyd a chynnes....Pawb sydd wedi ymweld a fi yn ystod fy arhosiad wedi gwirioni efo'r ty a'r lleoliad - a phawb yn bwriadu dychwelyd rhywbryd eto. Yr Aga yn fendith! Mi gawson ni ginio dolig - a'r gegin glyd yn leoliad perffaith. Bob dim i ateb bob angen yn mhob cwpwrdd. Mi ydych chi wirioneddol wedi meddwl am bopeth. Gai ffarwelio'n llawen wrth wybod y byddaf yn dychwelyd yn fuan.
LH Rhagfyr 2007

Diolch am arhosiad gwirioneddol arbennig - mae 'na heddwch a hyfrydwch arbennig yn y llecyn hwn sy'n caniatau i rywun ymlacio go iawn, a chael amser i feddwl ac i freuddwydio. Cawsom fodd i fyw yn crwydro'r llwybrau arfordirog, yn teithio i lefydd fel Abereiddi, Trefin a Traeth Llyfn, a chael mwynhau y tywydd braf a'r awyrgylch hudolus mewn llefydd fel Pwllderi. Mae'r ty yn wirioneddol hyfryd - digon o le yma i deulu a ffrindiau. Y peth gwych am y lle yw ei fod amlwg yn 'gartre', ac mi naethon ni fwynhau y teimladau cynnes, cartrefol gydol yr wythnos.
F&I Mehefin 2008

Llety gwirioneddol fendigedig, cartrefol a chlyd gyda phob dim wrth law. wedi treulio penwythnos hyfryd o gerddoriaeth byw yng nghwmni Fflur Dafydd a'r Barf yn y Sloop, digon o ganu wedi trychineb gem rygbi Iwerddon v Cymru! Diolch yn fawr am ganiatau i ni aros yn eich cartref
HapG Mawrth 2010